Y Pwyllgor Cyllid

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 16 Gorffennaf 2014

 

 

 

Amser:

09.00 - 10.46

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=en_400000_16_07_2014&t=0&l=en

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Jocelyn Davies AC (Cadeirydd)

Christine Chapman AC

Paul Davies AC

Mike Hedges AC

Alun Ffred Jones AC

Julie Morgan AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Peter Black AC, Comisiynydd

Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd

Nicola Callow, Comisiwn y Cynulliad

Craig Stephenson, Comisiwn y Cynulliad

Dave Tosh, Comisiwn y Cynulliad

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Bethan Davies (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

1    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a chan Peter Black ar gyfer eitemau 1-5.

 

 

</AI2>

<AI3>

2    Papurau i’w nodi

2.1 Nodwyd y papurau.

 

 

</AI3>

<AI4>

2.1  Y Bil Addysg Uwch (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (30 Mehefin 2014)

 

</AI4>

<AI5>

2.2  Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Gwybodaeth ychwanegol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

 

</AI5>

<AI6>

3    Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi ieithoedd swyddogol y Comisiwn, gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth, Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn dros dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.

 

 

</AI6>

<AI7>

4    Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd, Dave Tosh, Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.

 

 

</AI7>

<AI8>

5    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

 

</AI8>

<AI9>

6    Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil

6.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ateb cwestiynau ar oblygiadau ariannol y Bil ar y cam hwn, ond y byddent yn ysgrifennu ati i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

6.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid am wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y byddai'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil.

 

 

</AI9>

<AI10>

7    Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil

7.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ateb cwestiynau ynghylch goblygiadau ariannol y Bil, ond y byddent yn ysgrifennu ato i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

7.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid am wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y byddai'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil.

 

 

</AI10>

<AI11>

8    Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Trafod yr adroddiad drafft

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau. Nodwyd y byddai'n cael ei gyhoeddi ar 24 Gorffennaf.

 

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>